Amdanom Ni

Mae croeso cynnes yn eich aros…

Tafarn Gymreig draddodiadol - gydag amcanion cymdeithasol

Mae’r Heliwr yn dafarn gymunedol, a sefydlwyd gan wirfoddolwyr, gyda’r nod o ddod â gwerth cymdeithasol, amgylcheddol, ac economaidd i dref Nefyn a’r cyffiniau.

Mae’r ‘Sportsman’, fel ei gelwid gynt, yn dafarn a gwesty hanesyddol sy’n dyddio o ganol y 19eg ganrif. Mae wedi ei leoli yn ardal gadwraeth yr hen Nefyn. Yr Heliwr yw cyfieithiad Cymraeg o’r ‘Sportsman’.

Bu'r Heliwr yn rhan bwysig o fywyd cymdeithasol yn Nefyn am genedlaethau lawer, nes iddi gau ei drysau yn 2009, ynghyd â nifer o siopau a busnesau lleol eraill ar Stryd Fawr y dref.

Yn 2018, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus gan gwpwl lleol, Bleddyn a Bethan Evans, i drafod y posibilrwydd o brynu ac ailagor y dafarn fel menter gymunedol.

Roedd cefnogaeth i’r fenter yn amlwg yn y cyfarfod cyhoeddus cyntaf hwn. Mynychodd dros 80 o drigolion, gan lenwi'r ystafell gyda brwdfrydedd a syniadau.

Yn fuan wedyn, crëwyd bwyllgor i arwain y prosiect, a sefydlwyd Cymdeithas er Budd Cymunedol i redeg Yr Heliwr.

Lansiwyd cynnig cyfranddaliadau ym mis Mai 2018. Gyda’i gilydd, buddsoddodd dros 500 o gyfranddalwyr dros £80,000 i brynu’r adeilad, a brynwyd gan y gymuned ym mis Tachwedd 2018. Comisiynwyd cynllun busnes er mwyn datblygu camau nesa’r fenter.

Cododd Yr Heliwr £500,000 gan nifer o sefydliadau – Llywodraeth Cymru, Cyngor Gwynedd, Calor Gas, a y Loteri Genedlaethol.

Mae adnewyddu'r gwesty (llety) wedi'i ariannu gan Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Agorwyd y pedair ystafell ensuite i westeion yn ystod Pasg 2023, yn dilyn gwaith adnewyddu helaeth.

Bydd y gwesty yn cefnogi cynaliadwyedd ariannol y prosiect, tra'n sicrhau bod y diwydiant twristiaeth yn cael ei ddefnyddio'n lleol fel sbardun ar gyfer datblygiad cymdeithasol ac economaidd cadarnhaol.

Codwyd arian i brynu adnoddau ac offer hefyd drwy ddigwyddiadau codi arian fel “Parti ar y Pafin”- parti stryd yng Ngorffennaf 2019 I ddathlu Nefyn a’r ardal.

Dechreuodd y gwaith adeiladu ym mis Chwefror 2020, ac ail-agorodd Yr Heliwr i’r cyhoedd ym mis Gorffennaf 2021.

Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi bod mor garedig â chyfrannu eu hamser, arian ac ymdrechion i’r prosiect, sy’n parhau i ehangu a datblygu.