Y Llety

Llety fforddiadwy wedi’i adnewyddu’n hyfryd yng nghanol Penrhyn Llŷn

Agorodd Yr Heliwr fel gwesty am y tro cyntaf yng nghanol y 1800au.

Mae’r llety bellach wedi’i adnewyddu’n llwyr i safon fodern uchel, ac yn cael ei redeg fel menter gymdeithasol gymunedol.

Mae’r llety arddull byncws yn cynnwys dwy ystafell gyda phedwar gwely bync yr un, a dwy ystafell maint teulu. Mae gan un ystafell deulu ddau wely bync a gwely dwbl, tra bod gan y llall dri gwely bync a gwely dwbl. Mae gan bob ystafell ystafell ymolchi en-suite llawn offer gyda chawod.

Mae’r ystafelloedd wedi’u dylunio ar gyfer grwpiau bach, teuluoedd, unigolion a chyplau sy’n dymuno mwynhau’r ardal unigryw hon – am bris fforddiadwy – gyda phob ystafell wedi’i henwi ar ôl tirnod lleol, y gellir gweld rhai ohonynt o’r ystafelloedd eu hunain hyd yn oed!

Mae’r holl ddillad gwely a thywelion wedi’u cynnwys.

Mae gwesteion yn cael cynnig 10% oddi ar brydau min nos – ar gael o ddydd Iau i ddydd Sadwrn, 5 i 8pm. Bwydlen plant ar gael hefyd! 

Fel arall, gellir paratoi prydau sylfaenol hefyd yn y gegin gymunedol, gyda microdon, oergell-rhewgell, tegell, cadeiriau a byrddau, a pheiriant golchi a pheiriant sychu dillad a weithredir â darnau arian.

Mae wi-fi am ddim ar gael yn yr ystafelloedd, yn ogystal â chyfleusterau te a choffi.

Mae croeso i blant o unrhyw oed. Mae plant 4 oed a hŷn yn cael eu hystyried yn oedolion yn y gyfradd ystafell.

Mae cotiau ar gael yn rhad ac am ddim, yn amodol ar argaeledd, i blant 0-3 oed. Mae parcio am ddim ar gael yng nghanol tref Nefyn, dwy funud ar droed o’r dafarn.

Mae’r dafarn yn dafarn Gymreig ffyniannus, gyda phobl leol ac ymwelwyr yn mwynhau ein hawyrgylch clyd, yn ogystal â’r gigs a’r digwyddiadau cymunedol niferus rydym yn eu cynnal yn rheolaidd.

Bydd arhosiad yn Yr Heliwr yn rhoi cipolwg unigryw i chi ar y diwylliant a’r dirwedd leol, yn ogystal â gwybodaeth fewnol wych am ble i fynd a beth i’w weld.

Croeso i Bawb!

BWCIO ARLEIN

Archebwch yn uniongyrchol gyda ni am y pris gorau!

Bwcio

Mae modd cyrraedd rhwng 15:00 a 22:00 dydd Llun - dydd Gwener, a rhwng 13:00 a 22:00 dydd Sadwrn a dydd Sul. Mewn amgylchiadau arbennig, bydd posib cyrraedd yn gynharach neu’n hwyrach trwy drefniant ymlaen llaw. Bydd angen gadael yn brydlon am 10.30am. Bydd modd storio eich bagiau tan 13:00pm ar eich diwrnod olaf trwy drefniant ymlaen llaw.

Gellir canslo eich arhosiad hyd at 1 ddiwrnod cyn diwrnod i chi gyrraedd yn rhad ac am ddim. Codir 100% o gyfanswm yr arhosiad wrth ganslo llai na 1 ddiwrnod cyn dechrau’r arhosiad. Ar gyfer arhosiad lle mae mwy nag un ystafell wedi'u llogi, bydd hyn yn berthnasol i bob ystafell yn unigol. Sylwch hefyd bod rhaid i bob achos o ganslo neu addasu gael ei wneud yn ysgrifenedig dros e-bost, ni dderbynnir newidiadau neu ganslo dros y ffôn.

Cyfradd na ellir ei had-dalu: Codir cyfanswm pris yr arhosiad yn syth ar ôl archebu ac ni fydd yn ad-daladwy.

Mae’r cyfraddau fesul ystafell am y noson ac maent TAW. Gall cyfraddau newid.

Taliadau

Ar gyfer archebion ar-lein, cymerir taliad 24 awr cyn cyrraedd. Ar gyfer archebion a wneir dros y ffôn neu drwy e-bost, mae'r balans llawn yn ddyledus wedi chi gyrraedd. Rydym yn cadw'r hawl i godi tâl am unrhyw ddifrod a ganfyddir.

Parcio

Mae maes parcio am ddim gerllaw, ar Stryd y Plas. Dyma ychydig funudau o gerdded o’r Heliwr.

Ymestyn eich Arhosiad

Os ydych eisoes yn aros gyda ni ac yr hoffech aros yn hirach, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl cyn eich dyddiad gadael. Byddwn yn gwneud ein gorau i roi llety i chi a gall hyn gynnwys eich symud i ystafell debyg os oes angen.

Polisi Plant

Mae croeso i blant o unrhyw oed. Mae plant 4 oed a hŷn yn cael eu hystyried yn oedolion yn y gyfradd ystafell. Mae cotiau ar gael yn rhad ac am ddim, yn amodol ar argaeledd, i blant 0-3 oed.

Ysmygu

Dim ysmygu ar unrhyw adeg mewn unrhyw ran o'r eiddo.

Polisi Alcohol

Rhaid i bob gwestai fod yn 18+ oed i brynu alcohol yn yr Heliwr, bydd angen cerdyn adnabod dilys.

Cwynion

Rhaid rhoi gwybod i'r Heliwr yn ysgrifenedig neu drwy e-bost am unrhyw gŵyn am y gwasanaeth archebu cyn gynted â phosibl.