Polisi Preifatrwydd a Chwcis y Wefan

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni; o dan y Ddeddf Diogelu Gwybodaeth a’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), mae rhwymedigaethau cyfreithiol penodol arnom yn ymwneud â’r wybodaeth yr ydym yn ei chasglu a’i phrosesu amdanoch. Mae rhagor o wybodaeth am y GDPR ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth (https://ico.org.uk/). I bwrpas y GDPR, ni fydd “rheolydd” yr holl ddata personol a gedwir amdanoch.

Cadwn yr hawl i ddiwygio’r Polisi Preifatrwydd hwn o bryd i’w gilydd heb rybudd ymlaen llaw. Fe’ch cynghori i wirio’r dudalen hon yn rheolaidd i weld unrhyw newidiadau.

Diweddarwyd y Polisi Preifatrwydd hwn ar 25 Mai 2022.

Polisi Cwcis

Mae ein gwefan yn gwneud defnydd cyfyngedig o gwcis. Ffeiliau testun bach a osodir ar eich cyfrifiadur, tabled neu ffôn yw cwcis pan ydych yn ymweld â gwefan. Dyma’r mathau o gwcis:

Cwcis sesiwn – mae’r rhain yn para’ ar eich cyfrifiadur, tabled neu ffôn am hyd sesiwn bori unigol, er enghraifft i gofio eitemau mewn basged siopa. Nid ydynt yn para’ ar eich cyfrifiadur, tabled neu ffôn unwaith y byddwch wedi cau’r sesiwn.

Cwcis parhaus – mae’r rhain yn para’ ar eich cyfrifiadur, tabled neu ffôn rhwng sesiynau pori, er enghraifft i’ch dilysu, neu gofio eich dewisiadau rhwng ymweliadau.

Cwcis parti cyntaf a thrydydd parti – mae cwcis parti cyntaf yn cael eu gosod gan rywun nad yw’n berchennog y wefan yr ydych yn ymweld â hi.

Mae’r cwcis a ddefnyddir ar ein gwefan yn cydymffurfio â Chyfarwyddeb Preifatrwydd yr UE, a fabwysiadwyd gan y DU yn fersiwn ddiweddaraf Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig ar 16 Mai 2016.

Sut ydym yn defnyddio cwcis

Mae ein gwefan yn defnyddio’r ddau fath canlynol o gwci:

Cwci sesiwn (rhif adnabod) – mae’r cwci hwn yn caniatáu i’r gweinydd gwe sy’n cynnal ein gwefan ymateb i’ch gweithredoedd ar y wefan, er enghraifft, darparu tudalennau wrth i chi bori. Mae’r cwci hwn yn cael ei ddileu’n awtomatig o’ch cyfrifiadur, tabled neu ffôn pan fyddwch chi’n cau eich porwr.

Cwcis Google Analytics – mae’r cwcis hyn yn cael eu gosod gan Google Analytics ar gyfer ystadegau am ymwelwyr (dienw) â’r wefan. Mae’r wybodaeth y mae Google Analytics yn ei chasglu’n cynnwys dyddiad ac amser yr ymweliad, y tudalennau yr edrychwyd arnynt, yr amser a dreuliwyd ar y tudalennau hynny, cyfeiriad IP, math o gyfrifiadur a phorwr a sut y cyrhaeddoch i’n gwefan (e.e. trwy beiriant chwilio neu trwy wefan arall). Ni ddefnyddir yr wybodaeth hon i adnabod unrhyw unigolyn; fe’i cesglir yn unig i roi dealltwriaeth i ni o’r ffordd y mae pobl yn dod o hyd i’n gwefan, ac yn ei defnyddio, ac i’n helpu i wella ein gwefan a’n gwasanaethau.

Gallwch weld Polisi Preifatrwydd Google Analytics yma: https://support.google.com/analytics/answer/6004245?hl=en

Trwy ddefnyddio ein gwefan rydych yn cytuno y gallwn osod y mathau hyn o cwcis ar eich cyfrifiadur neu ddyfais.

Cwcis blocio

Gallwch ddarllen mwy am gwcis, yn cynnwys sut i weld pa gwcis sydd wedi’u gosod a sut i reoli, dileu neu flocio cwcis trwy fynd i www.aboutcookies.org.

Cadwn yr hawl i ddiwygio’r Polisi Cwcis hwn o bryd i’w gilydd heb rybudd ymlaen llaw. Fe’ch cynghori i wirio’r dudalen hon yn rheolaidd i weld unrhyw newidiadau.

Diweddarwyd y Polisi Cwcis hwn ar 25 Mai 2022.