Buddsoddi
Eisiau bod yn ran o’r antur?
Dim ond trwy garedigrwydd a haelioni ein cyfranddalwyr y gwnaed Yr Heliwr yn bosib.
Tydi byth rhy hwyr – gallwch barhau i brynu cyfranddaliadau a bod yn rhan o ddyfodol y fenter newydd gyffrous hon sydd yn eiddo i’r gymuned.
Y lleiafswm all gael ei fuddsoddi yw £50, byddwch yn dod yn gyfranddaliwr swyddogol i Dafarn Yr Heliwr, ac yn cael dweud eich dweud yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (AGM).
I brynu cyfranddaliadau:
1. Lawrlwythwch y ffurflen gais cyfranddaliadau
2. Darllenwch y ddogfen cynnig cyfranddaliadau gyda’r holl rwymedigaethau cyfreithiol
3. Cwblhewch y ffurflen gais cyfranddaliadau a’i e-bostio draw i post@yrheliwr.cymru neu gyrrwch hi’n ôl i’r cyfeiriad ar y ffurflen gydag eich siec – neu anfonwch eich taliad drwy BACS.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau – cysylltwch â post@yrheliwr.cymru.
