Prosiectau
Er budd y gymuned gyfan
Mae’r Heliwr yn gymaint mwy na dim ond tafarn.
Fel rhan o’n budd cymunedol rydym yn rhedeg amrywiaeth o brosiectau a gweithgareddau sy’n helpu, cefnogi a datblygu potensial pobl lleol.
Mae gennym amserlen brysur o weithgareddau rheolaidd, gan gynnwys:
- Nosweithiau cymdeithasol dysgwyr Cymraeg bob ail nos Lun o’r mis o 7.30yh dan 8.00yh
- Boreau coffi a chacen ar ddydd Mawrth cyntaf pob mis o 2.00yh
- Gweithdai celf a chrefft i blant ar yr ail ddydd Mawrth o bob mis o 3.30 dan 5.30yh
- Ein clwb gwnïo i blant 11+ ac oedolion ifanc (ac oedolion hŷn!) bob dydd Mawrth o 6.30 i 8.00pm
- Ein cegin ‘Cegin Teulu’ ar ddydd Llun olaf pob mis o 5 tan 7.00yh (i ddechrau eto ym mis Medi 2025)
- Ein caffi digidol i helpu pobl i ddysgu TG newydd sgiliau bob dydd Iau o 1.30-3.30pm
Croeso i bawb – dewch draw i gymryd rhan!
Ewch draw i’n tudalen Facebook i ddysgu mwy am ddigwyddiadau a gweithgareddau sydd i ddod.
I ddysgu mwy am gyfleoedd gwirfoddoli, i ddefnyddio ein gofod cymunedol neu i gymryd rhan mewn gweithgareddau, ar 01758 721939 neu e-bostiwch post@yrheliwr.cymru.
Gardd Gymunedol Gardd yr Heliwr
Yn 2021 cawsom £15,000 gan Adfywio Cymru a’r Loteri Genedlaethol i sefydlu gardd gymunedol yn Nefyn. Y bwriad yw i gychwyn gardd lewyrchus sy’n darparu bwyd i’n gwirfoddolwyr a chegin Yr Heliwr, bydd cyfle i bobl lleol gael darn o dir er mwyn tyfu cynnyrch eu hunain. Yn ogystal bydd yr ardd yn cynnig cartref i fywyd gwyllt a phlanhigion cynhenid. Diolch yn fawr i Stad y Rhug am brydlesu’r tir i ni ac i Pub is the hub am helpu tuag at gostau’r gazebo.
Celfyddydau a Diwylliant
Un o’n prif amcanion ydi gwarchod a hybu’r iaith Gymraeg a threftadaeth Cymru, felly mae’r Heliwr yn cynnal digwyddiadau rhad ac am ddim yn rheolaidd a rheiny’n agored i unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am ddiwylliant lleol. Mae digwyddiadau wedi cynnwys sesiynau adrodd straeon Calan Gaeaf i blant, straeon llên gwerin gyda’r awdur a’r dramodydd Llŷr Titus, ac archwiliad o archaeoleg Nefyn gyda’r hanesydd a chyflwynydd Radio Cymru Rhys Mwyn. Does dim angen archebu lle – dewch draw!
Gegin Teulu (i ddechrau eto ym mis Medi 2025)
Yn Yr Heliwr, rydym yn ymwybodol iawn bod arian yn brin i lawer ar hyn o bryd.
Mae ein Cegin Teulu, a gynhelir ar ddydd Llun olaf pob mis, yn gweini pryd blasus, maethlon, poeth gyda’r nos wedi’i baratoi gan ein staff am bris rhesymol.
Mae’r holl elw yn mynd i fanciau bwyd lleol, gan sicrhau bod eich arian yn mynd i helpu eraill.
Cadwch lygaid ar ein tudalen Facebook am fwy o fanylion.