Cyswllt

Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi!

Mae Nefyn yn dref arfordirol ym Mhen Llŷn, gogledd orllewin Cymru, gyda phoblogaeth o tua 1,300.

Mae gan Nefyn draeth hir a thywodlyd sy’n swatio rhwng copa’r Eifl i’r gogledd, a childraethau cysgodol Porthdinllaen a Phorth Colmon i’r de.

Mae tref Nefyn ei hun yn blethwaith diddorol o strydoedd bach gyda llwybr arfordir Cymru yn ymlwybro drwy’r dref. Ym mhen draw traeth tywodlyd y dref gwelir bythynnod pysgotwyr gwyngalchog.

Ar un adeg yn dref bysgota ffyniannus, mae treftadaeth Nefyn yn cael ei ddathlu yn Amgueddfa Forwrol Llŷn yn hen Eglwys y Santes Fair.

Twristiaeth a ffermio yw’r prif ddiwydiannau bellach, gyda phobl yn cael eu denu i’r ardal i syrffio, nofio, torheulo, beicio, heicio ac ymlacio.

Yr Heliwr
Stryd Fawr
Nefyn
LL53 6HD

01758 721939

Oriau Agor y Dafarn

Dydd Llun: 12.00-11.00yh
Dydd Mawrth: 12.00-11.00yh
Dydd Mercher: 12.00-11.00yh
Dydd Iau: 12.00-11.00yh
Dydd Gwener: 12.00-11.00yh
Dydd Sadwrn: 12.00-11.00yh
Dydd Sul: 12.00-11.00yh

Cadwch lygaid ar ein tudalen Facebook agor a newidiadau i’r fwydlen.